Lynne Truss | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1955 Kingston upon Thames |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Gwefan | http://www.lynnetruss.com/ |
Awdur a newyddiadurwraig o Saesnes yw Lynne Truss (ganwyd 31 Mai 1955[1] yn Kingston upon Thames, Surrey).[2]
Cychwynnodd ei gyrfa wrth olygu adran lyfrau The Listener, a daeth yn feirniad, colofnydd a gohebydd chwaraeon i The Times.[3]
Ei gwaith enwocaf yw ei llyfr poblogaidd ar atalnodi, Eats, Shoots and Leaves (2003), sy'n ddoniol feirniadol o'r cam-atalnodi y mae'n ei weld o ddydd i ddydd. Yn 2005 cyhoeddodd llyfr yn trafod moesau yn yr un arddull o'r enw Talk to the Hand.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search